Y clod, y gogoniant, y gallu o bob rhyw, A redo fel moroedd i enw fy Nuw; Y dechreu a'r diwedd, o'r ddaear i'r nef, O ras ac o haeddiant yn unig yw Ef. Bu farw, o gariad, ar bren yn fy lle, I godi'r un gwaelaf o'r ddaear i'r ne'; Bendithion a gollais, ennillodd i mi, A chanmil ychwaneg ar ben Galfari. Wel, bellach, mi gredaf, er nad wyf ond gwan; Edrychaf o ddyfnder y ddaear i'r lan: Agorodd ei gariad ffordd newydd a byw, O ganol tywyllwch i fynwes fy Nuw. Cyduned trigolion y ddaear i gyd Mewn sain o orfoledd i Brynwr y byd, Mor dirion ei gariad i holl ddynoryw, I'r penaf droseddwr ddychwelyd, a byw.William Williams 1717-91 [Mesur: 11.11.11.ll] gwelir: Mae enw f'Anwylyd mor anwyl mor fawr Wel bellach mi gredaf er nad wyf ond gwan |
May the praise, the glory, the power of every kind, Run like seas to the name of my God; The beginning and the ending, of the earth and heaven, Of grace and of merit alone is he. He died, from love, on a tree in my place, To raise a worst one from the earth to heaven; Blessings that I lost, he won for me, And a hundred thousand in addition on the summit of Calvary. See, henceforth, I believe, although I am only weak; I look up from the depth of the earth: His love opened a new and living way, From the centre of darkness to the bosom of my God. Let all the inhabitants of the earth unite In a sound of jubilation to the Redeemer of the world, How tender his love for all humankind, For the chief of sinners to return, and live.tr. 2021 Richard B Gillion |
|